Actor / Hwylusydd Creadigol

Swyddi rhan amser. Ar gael rhwng Ebrill 2025 a Mehefin 2026.

Lleoliad: Theatr Spectacle Cyf, Welsh Hills Works, Jenkin Street, Porth, CF39 9PP

Mae angen gwiriad DBS ar y lefel briodol ar gyfer y swyddi yma

Lawrlwythwch y Pecyn Recriwtio yn Cymraeg


DISGRIFIAD SWYDD

Mae Spectacle yn chwilio am Actorion / Hwyluswyr Creadigol i gyd-ddarparu gweithdai theatr a drama mewn ysgolion ac yn y gymuned.

Ffi: Yn seiliedig ar Equity / ITC

Byddwch yn hunan-gyflogedig ac yn gyfrifol am eich treth a’ch yswiriant gwladol eich hunan.

Mae Spectacle wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn y bobl sy’n cymryd rhan yn ein gweithgareddau a’n digwyddiadau. Rydyn ni’n creu gofod diogel lle mae pawb yn teimlo bod croeso iddyn nhw a’u bod wedi’u cynnwys. Gellir darparu hyfforddiant ar gyfer y swyddi.

SUT I WNEUD CAIS:

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni, neu mewn dysgu mwy am y swyddi, mynegwch eich diddordeb drwy anfon eich CV a llythyr eglurhaol (500 gair ar y mwyaf) at Steve Davis, Cyfarwyddwr Creadigol, apply@spectacletheatre.co.uk gan roi sylw i’r canlynol:

  • Sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf o ran yr hyn sydd ei angen arnon ni yn y swydd hon
  • Pam mae gennych ddiddordeb yn y swydd

Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n bodloni’r pwyntiau isod

  • Actorion sydd ag awydd cryf i weithio ym myd Theatr mewn Addysg
  • Profiad o hwyluso sesiynau creadigol mewn ysgolion neu leoliadau cymunedol
  • Profiad o hwyluso sesiynau gyda phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu arbennig
  • Y gallu i drosi syniadau pobl ifanc yn berfformiad.
  • Y gallu i addasu a bod yn hyblyg gyda chynnwys sesiynau.
  • Profiad o gynllunio sesiynau sydd ag amcanion clir.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion diogelu pobl ifanc.
  • Ymrwymiad i gynhwysiant a dealltwriaeth eang o’r heriau mae pobl ifanc a chymunedau yn eu hwynebu

Dymunol

  • Dibynadwy, gofalgar, angerddol am gydweithio, ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm
  • Profiad o ddarparu prosiectau theatr a drama gyda phobl ifanc
  • Profiad o ymwneud â phobl ifanc a pharodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol i wella’ch sgiliau, eich gwybodaeth a’ch ymarfer
  • Profiad o ddarparu sesiynau creadigol gan ddefnyddio technoleg
  • Gallu siarad Cymraeg

CYFLE CYFARTAL

Mae Theatr Spectacle Cyf wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bawb.

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, yn enwedig pobl sy’n cael eu tangynrychioli yn y sector celfyddydol a diwylliannol.

Os bydd angen unrhyw gymorth mynediad neu addasiadau arnoch yn ystod y broses recriwtio, rhowch wybod i ni.

DATA A DIOGELU

Drwy wneud cais am y swydd hon, rydych yn cydsynio i unrhyw ddata personol rydych wedi’i ddarparu i ni gael ei storio a’i drin yn ddiogel. Wnawn ni byth rannu’ch data gyda thrydydd parti heb eich cydsyniad. Gallwch ofyn am i’ch data gael ei waredu unrhyw bryd, drwy anfon e-bost at steve.davis@spectacletheatre.co.uk