Mae Theatr Spectacle, mewn partneriaeth â Gwasanaethau Seicoleg Addysg Rhondda Cynon Taf, yn falch o gynnig rhaglen theatr addysg undydd i ysgolion uwchradd Rhondda Cynon Taf.
Gyda’r nod o rymuso disgyblion gyda’r offer i siarad yn hyderus am berthnasoedd iach yn y byd digidol sydd ohoni, mae IRL: In Real Life yn cefnogi Cynllun Strategol ar Gyfer Llesiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac mae’n cyd-fynd yn agos â phedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.
Ynglŷn â’r Ddrama – IRL: In Real Life
Ydych chi erioed wedi gwneud rhywbeth hollol wirion? Mor wirion fel y gallai rhywun fod wedi marw, neu rywbeth?
Wedi’i hysgrifennu gan Paul Swift, mae IRL yn dilyn hanes Jay, person ifanc sy’n llywio’r broses o ffurfio cyfeillgarwch ar-lein, canlyniadau yn y byd go iawn, a phroblemau moesol. Mae’n stori afaelgar a pherthnasol sy’n cychwyn sgyrsiau hanfodol ynghylch:
- Diogelwch ar-lein
- Dylanwad cyfoedion
- Gwahaniaethu a thrais
- Ystrydebau rhywedd a hiliol
Mae Jay ar ei gyfrifiadur, yn siarad â’i ffrindiau ar-lein. Mae’n poeni am Nevaeh, ble mae hi, ac a yw Riley yn mynd i wneud beth ddywedodd hi y byddai’n ei wneud… Ond at bwy gall e droi? Nid yw’n un sy’n cario clecs, ac mae’n siŵr na fydd Riley yn ei chyffwrdd! Ac efallai bod Riley yn iawn, a bod y bobl yna’n haeddu’r popeth sy’n digwydd iddyn nhw.
Beth sydd wedi’i gynnwys – heb ddim cost i ysgolion
- Drama gyfranogol awr o hyd yn Saesneg i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7, 8, neu 9.
- Gweithdai dilynol dwyieithog yn archwilio themâu’r ddrama
- Adnoddau addysg ar gyfer ymgysylltiad parhaus yn yr ystafell ddosbarth
Dyddiadau’r Rhaglen
- 📅 23 Chwefror – 26 Mawrth 2026
- 📍 Wedi’i chyflwyno yn yr ysgol, ledled RhCT
- 🎟️ Archebwch NAWR – bydd llefydd yn cael eu rhannu ar sail y cyntaf i’r felin
- 👥 Un dosbarth y dydd fesul ysgol
Sut mae’n cefnogi eich ysgol
Mae IRL yn cefnogi Cynllun Strategol ar Gyfer Llesiant (2022-2025) Cyngor Rhondda Cynon Taf a’r Cwricwlwm i Gymru yn uniongyrchol.
✅ Cefnogi Blaenoriaeth Strategol 4 – Gwella llesiant ein disgyblion a’r gweithlu
✅ Hyrwyddo perthnasoedd iach a llythrennedd emosiynol
✅ Archwilio effaith y cyfryngau cymdeithasol, pwysau gan gyfoedion, ac ystrydebau
✅ Creu gofodau diogel i ddisgyblion fynegi a myfyrio
✅ Hyrwyddo perthnasoedd iach a llythrennedd emosiynol
✅ Cefnogi dulliau ysgol gyfan o ymdrin â llesiant
Prawf o’n heffaith
“Gwerthfawr, diddorol, cynhwysol, goleuedig, pwerus.” – Adborth gan athro o In The Dark Woods
Yn dilyn taith flaenorol Theatr Spectacle, In The Dark Woods, dangosodd y gwerthusiad y canlynol:
- Gwell dealltwriaeth o berthnasoedd diogel yn erbyn perthnasoedd anniogel
- Gwell empathi a mynegiant emosiynol
- Mwy o hyder gan athrawon wrth drafod pynciau sensitif
- Aliniad cryf ag egwyddorion lles PERMA
Archebu
-
Cyn i chi archebu
🗓EWich dyddiad(au) dewisol ar gyfer yr ymweliad (rhwng 2 Chwefror a 20 Mawrth 2026)
📍 Enw a chyfeiriad yr ysgol
👩🏫 Person cyswllt (enw, swydd, e-bost a rhif ffôn)
🚸 Grŵp blwyddyn, dosbarth, a maint y dosbarth (uchafswm o un dosbarth y dydd)
ℹ️ Unrhyw anghenion neu ystyriaethau penodol (e.e. gofynion mynediad, protocolau diogelu, anghenion cefnogi disgyblion)
ℹ️ Cadarnhad o le addas sydd ar gael ar gyfer y perfformiad a’r gweithdai (e.e. neuadd neu ystafell ddosbarth fawr)
📤Cytundeb i lenwi ffurflen adborth fer ar ôl y sesiwn i’n helpu i werthuso’r effaith
Gwybodaeth bwysig
Er mwyn ein helpu i ddarparu’r profiad gorau i’ch dysgwyr, gwnewch yn siŵr:
- bod aelod o staff yn bresennol drwy gydol y perfformiad a’r gweithdy
- bod modd i ni gael mynediad i’r gofod perfformio o leiaf 30 munud cyn i’r sesiwn ddechrau
- eich bod yn rhoi gwybod i ni ymlaen llaw am unrhyw ddisgyblion y gallai fod angen cymorth neu addasiadau ychwanegol arnyn nhw
